Mae dyn o Gonwy sy’n cefnogi Manchester City wedi gorfod gadael yr heddlu ar ôl ymddangos gerbron llys am gamu ar gae Stadiwm Liberty yn ystod gêm gwpan yn erbyn Abertawe y mis diwethaf.
Mae Harry Eccles, 21, ymhlith pump o bobol sydd wedi’u cyhuddo o anhrefn yn dilyn yr ornest yng Nghwpan FA Lloegr ar Fawrth 16.
Roedd e’n gweithio fel derbynnydd ystafell reoli Heddlu’r Gogledd.
Rhedodd e ar y cae wrth i Sergio Aguero sgorio i’r ymwelwyr, ac fe gafodd ei dynnu oddi ar y cae.
Dywedodd cyfreithiwr ar ei ran fod gorfod gadael ei swydd newydd yn “destun embaras” iddo fe a’i dad, sy’n gyn-blismon.
Ond chafodd e mo’i wahardd am mai dyma’r tro cyntaf iddo fynd i drafferthion.
Achosion eraill
Cafodd e a thri arall eu gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 2) fod Ellis Bottomley, 18, yn feddw ac wedi sarhau stiwardiaid ar ôl cael ei ddal â pheint o lager yn yr eisteddle.
Rhegodd ar blismon yn ystod y ffrae.
Fe wnaeth Joseph Eaton, 32, sarhau plismyn yn eiriol hefyd a gwthio un ohonyn nhw wrth iddyn nhw geisio ei dywys o’r stadiwm am fod yn feddw.
Cafodd Andrew Peckitt, 53, ei dywys o’r stadiwm am ffrwydro bom mwg tua diwedd y gêm.
Cafodd Ellis Bottomley a Joseph Eaton ddirwy o £315, a chafodd Andrew Peckitt ddirwy o £170.
Cafodd achos yn erbyn Matthew Swan, 28, ei ohirio er mwyn casglu tystiolaeth ei fod e wedi taflu potel cyn ddinoethi ei hun i bi-pi ar wal.
Cafodd llanciau 15 ac 16 oed rybudd yn dilyn yr helynt.