Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn galw am gyfarfod â Nantes yn Llydaw i ddatrys sefyllfa trosglwyddiad y diweddar Emiliano Sala.
Cafodd yr ymosodwr ei ladd pan blymiodd ei awyren i’r ddaear wrth deithio tros ynysoedd y Sianel ar Ionawr 21.
Roedd e newydd gytuno i symud i Gaerdydd, ond fe fu cryn ddadlau ers hynny am ei gytundeb.
Roedd disgwyl i’r clybiau gyflwyno tystiolaeth i FIFA erbyn heddiw (dydd Mercher, Ebrill 3), ond mae’r dyddiad wedi cael ei ymestyn i Ebrill 15.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud nad yw Nantes wedi ymateb i’r gwahoddiad i gyfarfod, a hynny ar ôl i’r Llydawyr gwyno wrth FIFA fod yr Adar Gleision yn gwrthod talu rhan gyntaf ffi’r trosglwyddiad.
Mae lle i gredu nad oedd FIFA yn awyddus i ymyrryd yn y sefyllfa, a hynny ar ôl i Uwch Gynghrair Lloegr godi amheuon am y cytundeb gwreiddiol.
Mae’r clybiau bellach yn anghytuno ynghylch a gafodd ail gytundeb ei lofnodi cyn marwolaeth Emiliano Sala.