Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi talu teyrnged i ddoniau Nathan Dyer a Daniel James ar ôl gweld ei dîm yn trechu Brentford o 3-0 yn Stadiwm Liberty neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 2).

Sgoriodd Nathan Dyer ddwy gôl yn yr hanner cyntaf – ei goliau cyntaf yn y gynghrair i Abertawe ers Awst 2014 – ac fe rwydodd Daniel James y gôl olaf i sicrhau bod y gêm y tu hwnt i afael yr ymwelwyr.

Roedd yr Elyrch ar y blaen ar ôl dim ond 32 eiliad.

“Ro’n i’n gobeithio y byddai Nathan yn cael hatric,” meddai Graham Potter.

“Mae e wedi cael tymor diddorol ac mae’n wych iddo fe ei fod e wedi cael ei wobrwyo am gael dylanwad yn y gêm.

“Roedd yna gymorth da gan y golwr ar gyfer ei ail gôl, a gwnaeth Daniel yn dda ar gyfer yr un gyntaf.

“Roedd yn berfformiad mawr eto gan Dan.

“Fe ddechreuodd e’n dda ac mae ganddo fe gryn ddewrder.

“Mae e’n cael ei gicio ond mae’n codi ac yn mynd ati eto.”

Rheolwr Brentford yn canmol

Ategodd Thomas Frank, rheolwr Brentford, sylwadau Graham Potter am Daniel James a pherfformiad Abertawe.

“Roedden ni’n gwybod fod Abertawe’n un o’r timau pêl-droed gorau yn yr adran.

“Maen nhw’n dda iawn ar y bêl.

“Roedd rhaid i ni gwrso dipyn ac roedd yn golygu pan gawson ni’r bêl ein bod ni wedi blino.

“Yr hyn wnaeth Abertawe’n dda o’u cymharu â ni oedd defnyddio’u cyflymdra y tu ôl, yn enwedig o safbwynt [Daniel] James.

“Mae ganddo fe’r potensial i fod yn chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair, ond dw i’n gobeithio  y gall Abertawe ei gadw fe.”