Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o drywanu dyn 29 oed i farwolaeth yn Toxteth, Lerpwl, wedi cael ei gadw yn y ddalfa dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Fe gafodd y dyn 28 oed ei ddwyn i’r ddalfa ddydd Gwener (Mawrth 29) ar amheuaeth o.lofruddio Hassan Ahmed Mohamoud, bnawn Iau.

Mae prawf post mortem yn dangos fod y dioddefwr wedi marw o ganlyniad i un ergyd ym ei wddw.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bentley Road yn Toxteth am 1.20yp, ac fe gafodd Hassan Ahmed Mohamoud ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw.