Fe allai athrawon, nyrsus a swyddogion yr heddlu gael eu dwyn i gyfrif am fethu a gweld arwyddion posib o drais troseddol ymhlith pobol ifanc, o dan gynlluniau sy’n cael eu cyhoeddi gan y llywodraeth heddiw (dydd Llun, Ebrill 1).

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid fe fyddai’r syniad o gael “dyletswydd iechyd cyhoeddus” yn ymdrech i sicrhau bod “pob rhan o’r system yn gweithio i gefnogi pobol ifanc.”

Dywed y Llywodraeth mai’r bwriad yw ceisio adnabod arwyddion cynnar bod person ifanc mewn peryg gan gynnwys “mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys gydag anaf amheus, neu ymddygiad pryderus yn yr ysgol neu broblemau yn y cartref”.

Fe fydd ymgynghoriad yn asesu i ba raddau y dylai’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen gymryd cyfrifoldeb am fethu ag atal person ifanc rhag bod yn gysylltiedig â thrais, meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

Daw hyn ar ôl i Sajid Javid roi pwerau newydd i’r heddlu er mwyn stopio a chwilio yn dilyn cyfres o achosion o drais ar draws Llundain a gweddill Lloegr ers dechrau 2019.

Fe fydd mwy na 100 o arbenigwyr yn cwrdd yr wythnos hon i drafod syniadau newydd tra’n dechrau rhaglen o weithredu i geisio mynd i’r afael â’r broblem.