Bydd Aelodau Seneddol unwaith eto yn pleidleisio ar gyfres o opsiynau heddiw (dydd Llun, Ebrill) mewn ymgais i ddod o hyd i gynllun Brexit a fydd yn denu cefnogaeth yn y Senedd.
Dyma’r eildro i Dŷ’r Cyffredin gynnal pleidleisiau ‘dangosol’ ar gynigion sydd wedi eu cyflwyno gan Aelodau Seneddol y meinciau cefn.
Mae adroddiadau yn awgrymu bod y Prif Weinidog yn bwriadu dod â’i chytundeb Ymadael yn ôl i Dŷ’r Cyffredin am bedwaredd bleidlais yr wythnos hon, er gwaethaf y ffaith iddi golli o 58 pleidlais ddydd Gwener (Mawrth 31).
Fe dreuliodd Theresa May y penwythnos yn ceisio ennill cefnogaeth i’w bargen Brexit, gyda’i chyd-weithwyr yn dweud ei bod hi’n “benderfynol” o gael canlyniad cadarnhaol.
Mae rhai o fewn y Senedd yn credu y bydd rhai Brexitwyr caled yn dewis cefnogi bargen Theresa May os yw Aelodau Seneddol yn pleidleisio heddiw o blaid opsiwn sy’n cynnig Brexit meddalach.
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke, eisoes wedi rhybuddio’r Prif Weinidog i beidio ag anwybyddu’r Senedd os mai Brexit o’r fath fydd yn cael ei ffafrio gan Aelodau Seneddol.
Y cynigion
Mae wyth cynnig wedi eu cyflwyno gan Aelodau Seneddol ar gyfer y pleidleisiau “dangosol” heddiw.
Mae’r cynigion yn cynnwys cynllun undeb tollau, sydd wedi ei gyflwyno gan y cyn-Ganghellor, Ken Clarke; trefniant sy’n debyg i’r drefn rhwng Norwy a’r Undeb Ewropeaidd; Marchnad Gyffredin 2.0, a refferendwm ar unrhyw fargen fydd yn cael ei chymeradwyo.
Mae disgwyl i Lefarydd y Tŷ, John Bercow, gyhoeddi yn hwyrach yn y dydd pa gynigion fydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer dadl.