Mae Prif Weinidog Prydain wedi prynu tŷ yn ardal Dolgellau – nid nepell oddi wrth un o nofelwyr mwya’ adnabyddus yr iaith Gymraeg.
Ac fe allai’r ddwy ddod wyneb yn wyneb os y bydd Theresa May yn penderfynu dysgu Cymraeg a’i chael ei hun yn aelod o ddosbarthiadau Bethan Gwanas.
Fe ddaeth cadarnhad dros y Sul fod Theresa May a’i gwr, Philip, bellach yn berchen ar hen dyddyn yng nghefn gwlad Sir Feirionnydd, rhwng pentrefi Rhydymain a’r Brithdir.
Yn yr ardal honno yr oedd y ddau wedi bod yn treulio ychydig o ddyddiau cyn y Pasg ddwy flynedd yn ôl, pan benderfynodd arweinydd y blaid Geidwadol y byddai’n syniad da cynnal etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, 2017.
Mae hynny wedi esgor ar ffraeo mewnol yn y blaid ynghylch ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae bellach yn bygwth ei dyfodol hi yn Rhif 10.
Tŷ bach twt
Mae’r tyddyn, o’r enw Ffynnon Chwerw, ryw filltir a hanner oddi ar briffordd yr A470, yn yr ardal goediog y mae Bethan Gwanas yn ei disgrifio mor fyw yn ei nofel, Gwrach y Gwyllt a gyhoeddwyd yn 2009.
Roedd yr adeilad wedi chwalu nes i griw ddod at ei gilydd a buddsoddi i’w adnewyddu yn y 1970au.
Mae’r cyn-bartneriaid yn byw ar wasgar ar y cyfandir erbyn hyn, gan fod yna dipyn o densiwn ers rhai blynyddoedd ynglyn â phwy yn union gâi ddod i Ffynnon Chwerw i aros, ac am ba hyd.
Fe ddaeth y tyddyn ar y farchnad sengl ym mis Mehefin 2016, ac felly y bu nes i Mr a Mrs May allu, rywsut rywfodd, gwblhau’r cytundeb erbyn y terfyn amser, sef dydd Gwener diwethaf, (Mawrth 29).
Pwy wêl fai arni?
“Dw i ddim yn ei beio hi am gael ei hudo gan y lle yma; mae yna gannoedd yr un fath â hi wedi prynu tai yma,” meddai Bethan Gwanas wrth golwg360.
“Ond mi fydda’ i’n cael trafferth i beidio â’i beio hi am bethau eraill.
“Os ddaw hi i fy nosbarth Cymraeg i, mi ga’ i ffit, ond mi wna’ i drio bod yn aeddfed a pheidio â phigo arni,” meddai wedyn.
“Ond dw i wir yn licio’r syniad o’i chywiro hi – yn gyson – a phlastro beiro goch dros ei gwaith cartref hi.”
Pam Dolgellau?
Yn ogystal ag agosrwydd Ffynnon Chwerw at fynydd Cader Idris – hoff ddihangfa serth y Prif Weinidog rhag San Steffan a’i hymweliadau cyson â Brwsel – y gred ydi fod Theresa May yn ffan o ffotograffydd o dref Dolgellau.
Mae ffynonellau yn dweud mai lluniau Erfyl Lloyd Davies ohoni’n mynd i mewn ac allan o Eglwys y Santes Fair yn y dref oedd ei ffefrynnau o blith y cannoedd sydd wedi eu tynnu ohoni yn mynd i ofyn am ras dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.
Fe fu hi a’i gwr yn yr eglwys ar gyfer gwasanaeth Sul y Blodau yn 2017, a thros y penwythnos mawr yn 2018.
Ond dydi ei chymdoges newydd ddim yn siwr faint o groeso fydd yna i Theresa May mewn ardal amaethyddol lle mae ffermwyr mynydd yn siwr o ddioddef yn sgil Brexit.
“Mi fydda i’n siŵr o’i phasio hi ar fy meic pan fydd hi’n mynd am dro,” meddai’r awdures sydd hefyd yn ferch fferm, “a dw i am drio mynd dros ei bodiau hi – o leia’ unwaith.”