Fe fydd Jermey Corbyn yn cyfarfod â rhai o wleidyddion a swyddogion yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Iau, Mawrth 21), er mwyn trafod ei gynllun Brexit “amgen”.
Daw ei ymweliad i Frwsel ar yr un diwrnod â phan mae Theresa May yno i apelio ar arweinwyr Ewropeaidd i ganiatáu gohiriad i Brexit tan ddiwedd mis Mehefin
Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur gyfarfod â phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd, Martin Semayr, a phrif weinidogion Ewrop.
Yn ôl ei blaid ei hun, bydd Jeremy Corbyn yn hyrwyddo cynllun Brexit “amgen” a all ennill cefnogaeth yn San Steffan.
Dywedodd Jeremy Corbyn ar drothwy’r cyfarfod fod angen i Aelodau Seneddol “gydweithio” â’i gilydd er mwyn sicrhau bod yna gynllun yn cael ei gymeradwyo.
Ond mae’r arweinydd wedi cael ei feirniadu’n ddiweddar am fethu â bod yn bresennol mewn trafodaethau gydag arweinwyr pleidiau’r wrthblaid yn San Steffan.
Mae Chuka Umunna, y cyn-Aelod Seneddol Llafur sydd bellach yn rhan o’r Grŵp Annibynnol, wedi dweud bod ymddygiad Jeremy Corbyn ar hyn o bryd yn “blentynnaidd”.