Mae corff dyn wedi’i ddarganfod mewn afon, ac yntau’n dal i wisgo cyffion, ddau fis wedi iddo ddianc o swyddfa’r heddlu lle’r oedd yn cael ei holi.

Mae Heddlu Hampshire wedi lansio ymchwiliad mewnol i farwolaeth y gŵr 22 oed o Southampton.

Mae’r lle yn dweud fod y corff wedi bod yn y dŵr “am beth amser” cyn iddo gael ei ddarganfod yn afon Itchen yn Woodmill ddydd Sul (Mawrth 17). Dyw’r farwoaleth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Roedd y dyn wedi dianc o swyddfa heddiw ar ôl cael ei roi mewn cyffion ar Ionawr 12.