Mae dyn o wledydd Prydain wedi’i ladd mewn gwrthdrawiad mewn ras ar gyfer cerbydau 4×4 yn Tecsas.

Roedd Steven Fairbairn yn gyrru’r cerbyd yn gynnar fore Sadwrn diwethaf (Mawrth 16) pan fu mewn damwain gyda cherbyd arall mewn digwyddiad ‘Rednecks with Paychecks’ yn Saint Jo.

Fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd rhyw 70 milltir i ysbyty yn Fort Worth, lle bu farw.

Roedd y gŵr 25 oed wedi bod yn aros gyda’i ddyweddi yn Duncan, Oklahoma, ond dyw hi ddim yn glir eto o lle’r oedd yn dod yn Lloegr.

Dydi trefnwyr y digwyddiad ‘Rednecks with Paychecks’ ddim wedi ymateb i geisiadau’r wasg a’r cyfryngau am ddatganiad ar y ddamwain.