Mae’r orsaf radio gymunedol, MônFM, wedi derbyn estyniad o bum mlynedd i’w thrwydded ddarlledu.
Cafodd yr orsaf ddwyieithog ei sefydlu ym mis Chwefror 2011, gan gychwyn darlledu ar y we yn 2012. Symudodd i ddarlledu ar FM ac ar-lein ym mis Gorffennaf 2014.
Mae’n cael ei chynnal gan dîm o wirfoddolwyr, gyda’r rheiny’n amrywio mewn oedran o naw i 74 oed.
Mae modd clywed MônFM dros y tonfeddi yn Ynys Môn a’r gogledd-orllewin.
“Wrth ein bodd”
Mae Cadeirydd dros dro MônFM, Tony Wyn Jones, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Ofcom wedi caniatáu estyniad i’r drwydded ddarlledu tan 2024, gan ddweud ei fod yn “newyddion ardderchog”.
“Rydan ni’n parhau i fod yn ddyledus i’n holl wirfoddolwyr sy’n parhau i fod yn frwdfrydig, ac yn ymrwymo i roi’r peth mwyaf gwerthfawr yn y byd – eu hamser,” meddai.
“Rydan ni hefyd yn ddiolchgar i’n cynulleidfa sy’n gwrando’n rheolaidd ac yn mwynhau’r ystod eang o gerddoriaeth a chwaraeon lleol.”