Mae disgwyl i Theresa May deithio i Frwsel heddiw (dydd Iau, Mawrth 21) er mwyn apelio ar arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd i ganiatáu gohiriad dros dro i Brexit.
Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd mewn wyth diwrnod, ond mae’r Prif Weinidog yn gobeithio ymestyn Erthygl 50 tan Mehefin 30.
Yn ôl Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, mae caniatáu gohiriad “byr” yn bosib, ond ar yr amod bod Aelodau Seneddol yn cefnogi cynllun Brexit Theresa May cyn Mawrth 29.
A phryderon ym Mrwsel bod gwledydd Prydain am adael heb gytundeb, ychwanegodd Donald Tusk y byddai’n barod i alw am uwchgynhadledd brys yr wythnos nesaf, os oes angen.
Fe ofynnodd Theresa May am ymestyniad i Erthygl 50 mewn llythyr at Donald Tusk ddoe.