Fe fydd cymorth ariannol gwerth £840,000 yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mawrth 21) er mwyn ceisio taclo troseddau casineb – yn enwedig hiliaeth.
Mae’r arian yn dod o Gronfa Bontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, ac yn cael ei rannu dros ddwy flynedd.
Bydd £360,000 yn mynd ar fenter Cymorth i Ddioddefwyr Cymru er mwyn cynyddu eu capasiti yn y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau a Chymorth.
Bydd y £480,000 arall yn mynd ar gyfer cynllun cyllido sy’n cynnig grantiau unigol i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobol ddu, Asiaidd, ac o leiafrifoedd crefydd leiafrifol.
Mae bwriad hefyd i leihau effaith Brexit ar droseddau casineb a rhoi sicrwydd i’r bobol hyn wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.
74% yn droseddau hil neu grefydd
Mae ystadegau’n dangos bod 74% o’r troseddau casineb yng Nghymru wedi eu cysylltu â hil neu grefydd.
Un flaenoriaeth felly, yw sicrhau bod grantiau yn cael eu rhoi i brosiectau o fewn sefydliadau sy’n gweithio o fewn y cymunedau hyn, gan gynnwys tuag at geiswyr lloches a ffoaduriaid.