Mae disgwyl i rieni, plant ac ymgyrchwyr ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ben bore fory (dydd Iau, Mawrth 21) i sefyll yn erbyn cau ysgol Gymraeg ym Mhontypridd.
Fel rhan o gynllun y Cyngor i ad drefnu addysg gynradd yr ardal, mae bwriad i gau Ysgol Pont Siôn Norton, a’i symud ymhell o’r gymuned yng ngogledd tref Pontypridd.
Pryder rhieni yw na fydd addysg Gymraeg ar gael yn lleol yno, ac y byddai’n golygu teithio’n bell i gyrraedd ysgol Gymraeg arall.
Ardal fregus
“Mae hyn yn siom enfawr mewn ardal ble mae galw mawr am addysg Gymraeg,” yn ôl Owen Howell o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Tra bod modd croesawu buddsoddiad hir disgwyliedig mewn addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal, ni ddylai hyn fod ar draul addysg leol.”
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod yr ysgol yn derbyn y cyfleusterau newydd sydd eu hangen arni.