Fe fydd swyddogion diogelwch Palas San Steffan yn cynnal streic 24 awr heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20) fel rhan o anghydfod ynglyn â hawliau gwaith.
Roeedd disgwyl i aelodau’r undeb PCS (Public and Commercial Services) gerdded allan am 6yb a ffurfio llinell biced ym mhob un o’r mynedfeydd i’r Senedd yn Llundain.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u canslo o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol.
Mae’r PCS yn mynnu fod Comisiwn Ty’r Cyffredin. sy#n cyflogi’r swyddogion, wedi methu setlo’r anghydfod trwy drafodaethau.
Mae’r anghydfod yn ymwneud â faint o amser y mae staff yn cael ei gymryd yn egwyl o’u gwaith, mae hefyd yn ymwneud â rhai achosion cyflogaeth sydd heb eu setlo.
Yn ôl yr undeb, mae tua 250 o aelodau yn cymryd rhan yn y streic.
The union said almost 250 of its members were involved in the dispute.