Mae disgwyl i Theresa May ysgrifennu at yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20) i ofyn am gael gohirio Brexit tan Fehefin 30.
Roedd disgwyl i ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd fod ar Fawrth 29, ond mae hi am geisio cael estyniad o dri mis er mwyn sicrhau cefnogaeth y senedd i’w chynllun.
Mae rhai hyd yn oed yn awgrymu y gallai hi ofyn am estyniad o hyd at flwyddyn, gyda’r opsiwn o adael yn gynt pe bai’r senedd yn dod i gytundeb cyn etholiadau mis Mai.
Pleidleisiodd 52% o bobol gwledydd Prydain dros adael yn y refferendwm ar Fehefin 23, 2016 – union 1,000 o ddiwrnodau’n ôl.
Ymhlith y rhai sy’n galw am adael ddydd Gwener nesaf ddoed a ddêl mae Andrea Leadsom, yr aelod seneddol Ceidwadol a Donald Trump Jr, mab arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mae Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd yn y trafodaethau, yn rhybuddio y byddai angen rheswm da dros ohirio’r ymadawiad.
Hyd yn oed wedyn, byddai angen sêl bendith y 27 o wledydd sy’n aelodau’r Undeb Ewropeaidd, ond mae disgwyl iddyn nhw ofyn am rai amodau arbennig.
Pe bai’r Undeb Ewropeaidd yn awdurdodi estyniad, byddai angen i San Steffan gytuno ar ddeddfwriaeth i ohirio’r broses.
Y ffordd ymlaen
Mae adroddiadau, yn y cyfamser, y gallai Theresa May ofyn am drydedd pleidlais ar y cytundeb ar Fawrth 28.
Ond mae Downing Street yn gwadu’r adroddiadau, gan ddweud na chafodd dyddiad ei gytuno eto.
Mae disgwyl i Theresa May barhau i geisio cytundeb gyda’r DUP tros ffiniau Iwerddon.
Pe na bai hi’n cael y cytundeb hwnnw, fe allai Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, herio dulliau’r llywodraeth.