Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, wedi i ddynes gael ei thrywanu y tu allan i archfarchnad ar ffordd brysur yn Rhydychen.

Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau fod dynes wedi cael ei hanafu â chyllell y tu allan i Co-op yn Headington, Rhydychen tua 3yp ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 12).

Mae Heddlu Thames Valley yn cadarnhau fod y wraig, yn ei 20au, wedi’i chludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau difrifol.

Mae dyn 30 oed o Rydychen wedi’i ddwyn i’r ddalfa bore heddiw (dydd Mercher, Mawrth 13) ac mae’n cael ei holi gan swyddogion.