Mae tri pherson wedi cael eu cyhuddo o ddelio cyffuriau yn ardal Penybont-ar-Ogwr.
Mae’r tri yn cynnwys Krystal Jones, 35, a Stephen Larkin, 38 – ill dau o Benybont-ar-Ogwr – a llanc 16 oed o Lundain.
Mae’r cyhuddiadau yn erbyn y tri yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Penybont-ar-Ogwr heddiw (dydd Mercher, Mawrth 13).