Mae offeiriad Pabyddol sydd wedi’i gael yn euog o gam-drin aelodau o gôr eglwys gadeiriol Melbourne, wedi’i ddedfrydu i beth bynnag dair blynedd ac wyth mis o gwrchar.
Mae Llys Sirol Victoria yn Awstralia wedi gorchymyn y bydd y Cardinal George Pell yn treulio amser dan glo am y troseddau rhyw a gyflawnwyd ugain mlynedd yn ôl.
Roedd pob un o’r pump cyhuddiad yn erbyn y Cardinal Bell yn cario dedfryd posib o ddeng mlynedd yr un.
Fe fu George Pell yn weinidog cyllid i’r Pab Ffransis, ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor unfrydol y mis Rhagfyr y llynedd o dreisio bachgen 13 oed ac o ymdrin yn anweddus gyda’r bachgen a’i gyfaill 13 oed ddiwedd y 1990au.
Mae’r clerigwr 77 oed yn gwadu’r holl gyhuddiadau, ac mae’n bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniadau yn Llys Apêl Victoria ar Fehefin 5.