Mae tri o bobol wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng bws a dau gar ar briffordd yng ngogledd yr Alban.

Mae pedwar o bobol hefyd wedi’u cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar yr A90 rhwng Aberdeen a Dundee yn Glenbervie brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 12).

Mae’r rheiny’n derbyn triniaeth yn yr Aberdeen Royal Infirmary ac er bod eu hanafiadau’n ddifrifol, dydyn nhw ddim yn bygwth eu bywydau.

Chafodd neb oedd yn teithio ar fws y Scottish Citylink ei anafu – ond fe gafodd y gyrrwr fân-anafiadau.

Fe fu ffordd yr A90 ar gau am rai oriau neithiwr wrth i Heddlu’r Alban fwrw ymlaen gydag ymchwiliad i’r ddamwain.