Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen mwy o gyllid i Gymru os yw gwledydd Prydain am adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Daw’r alwad gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, ar drothwy Datganiad y Gwanwyn gan y Canghellor, Philip Hammond, yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Mawrth 13).

Mae’n dweud bod angen mwy o “dryloywder ac eglurder” gan Lywodraeth Prydain, a “thystiolaeth glir” fod y polisi o lymder ar ben.

“Y mis diwethaf, pwysais ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys am eglurder ynghylch amryw o faterion ariannol yn ymwneud â Brexit, yn arbennig o ystyried ein bod ni’n dal i wynebu’r perygl na fydd yna gytundeb,” meddai.

“Mae’n gwbwl hanfodol bod Cymru yn ganolog i’r penderfyniadau ac yn gallu paratoi ar gyfer effaith Brexit.

“Rwy’n chwilio am sicrwydd gan y Canghellor y bydd mwy o gyllid yn dod i Gymru os na fydd cytundeb ar gyfer Brexit ac rydw i am ymrwymiad i gynnal deialog ystyrlon rhwng Llywodraeth Prydain a’r gwledydd datganoledig ynglŷn â’r heriau hyn.”