Mae Gweindog Brexit yr wrthblaid yn San Steffan yn cydnabod fod gwaith Theresa May bron â bod yn amhosib – ond eto, bod “tyllau mawr” yn y cytundeb a gyflwynwyd gerbron Aelodau Seneddol.

Yn ôl Keir Starmer, mae’r ddogfen, ar y gorau, yn “denau ac yn annelwig”. Ar y gwaethaf, mae’n “fethiant affwysol” meddai.

“Ar ôl dwy flynedd o drafod, mae’n drist gweld cyn lleied sydd yn y ddogfen hon. O ystyried y gwaith mawr sydd o’n blaenau wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n fethiant rhyfeddol.

“Wedi pleidlais heno, mae’n rhaid i bawb yn y Tŷ ddod at ei gilydd er mwyn ein cael ni allan o’r llanast yma.”