Mae dyn ifanc wedi’i ddwyn i’r ddalfa gan Heddlu’r West Midlands, wedi i fachgen, 16, gael ei drywanu i farwolaeth yn Birmingham.
Mae’r dyn 19 oed o Walsall yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio Abdullah Muhammad.
Bu farw’r dioddefwr yn y fan a’r lle, wedi cael ei drywanu yn ardal Small Heath tua 8yh nos Fercher, Chwefror 20.
Ef oedd yr ail o dri bachgen yn eu harddegau i farw mewn achosion unigol o drywanu yn Birmingham o fewn pythefnos.