Mae disgwyl i’r gwaith o greu llwybr beicio ar wahân yn ninas Caerdydd gychwyn yr wythnos nesaf (Mawrth 18).

Bydd cam cychwynnol y ‘beicffordd’ cyntaf yn dirwyn o ben Heol Senghennydd ger tafarn y Woodville, hebio i Undeb Prifysgol Caerdydd a Theatr Sherman i Faes St Andrew, cyn troi i’r chwith ar Gilgant St Andrew.

Yn ôl cyngor y ddinas, dyma fydd y cam cyntaf o greu pum ‘beicffordd’ yng Nghaerdydd, ac mae disgwyl i’r rheiny ddirwyn ar hyd lwybrau:

o O Gilgant St Andrew i’r lôn uwch y reilffordd yn y Mynydd Bychan;

o O Blas Dumfries i Brodway yn Sblot;

o O Fae Caerdydd i Smart Way;

o O Gerddi Sophia i Landaf

o O ganol y ddinas i Bont Trelái.

“Mae llwyddiant cynllun Nextbike yn dangos pa mor boblogaidd y gall beicio fod yng Nghaerdydd,” meddai’r Cynghorydd Caro Wild, aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth.

“Nawr, rydyn ni’n canolbwyntio ar wella’r seilwaith ac rydyn ni’n credu y bydd nifer y bobol sy’n dewis beicio yn y ddinas yn codi’n sylweddol wedi adeiladu’r beicffyrdd.”