Northampton 1–0 Casnewydd                                                      

Rhoddwyd cnoc i obeithion Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran wrth iddynt golli oddi cartref yn erbyn Northampton yn Stadiwm Sixfields nos Fawrth.

Joe Powell a sgoriodd unig gôl y gêm, ddau funud o’r diwedd y new deg.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, bu rhaid aros tan y munudau olaf am y gôl holl bywsig, Powell yn rhwydo ddau funud yn unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Alltudion wyth pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle, yn y trydydd safle ar ddeg, gyda deg gêm yn weddill.

.

Northampton

Tîm: Cornell, Goode, Taylor, Pierre, Hoskins, O’Toole (Powell 86’), Turnbull, Foley, Powell, Williams (Bridge 66’)

Gôl: Powell 88’

Cerdyn Melyn: Pierre 57’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, O’Brien (Azeez 90’), Demetriou, Willmott, Labadie (Sheehan 90+1’), Bennett (McKirdy 90+2’), Bakinson, Butler, Amond, Matt

Cerdyn Melyn: Labadie 61’

.

Torf: 4,064