Mae disgwyl i’r SNP gyflwyno gwelliant Brexit er mwyn galw ail refferendwm i’r Alban.
Dylai Albanwyr fod yn gallu “pennu eu tynged eu hunain”, meddai Ian Blackford, llefarydd y blaid yn San Steffan.
Pleidleisiodd y rhan fwyaf o Albanwyr o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Ond mae Llywodraeth Prydain yn dweud na fydd yr Alban yn cael eu sêl bendith i gynnal refferendwm o’r newydd, er bod yr SNP yn dadlau bod ganddyn nhw fandad.
“Yr hyn fyddwn ni’n ei wneud yw cyflwyno gwelliant yn gofyn i’r Llywodraeth gydnabod fod yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros,” meddai Ian Blackford wrth Sunday Politics Scotland ar y BBC.
Mae’n dweud nad oes ganddyn nhw “unrhyw ddymuniad” i weld yr Alban “yn cael ei llusgo allan yn erbyn ei hewyllys”.
Cynnal refferendwm
Tra bod gan Lywodraeth yr Alban yr hawl i alw refferendwm, byddai angen pleidlais yn San Steffan ar drosglwyddo pwerau er mwyn cyfreithlonni’r broses.
Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes wedi dweud na fydd hi’n cynnal refferendwm heb ganiatâd San Steffan.
Bydd y mater yn cael ei drafod mewn pleidlais ar Brexit yn San Steffan ddydd Mawrth.