Mae pryderon am ddynes 23 oed o Sir Rydychen sydd ar goll yn Gwatemala.
Mae rhieni Catherine Shaw yn dweud bod ei diflaniad yn “anarferol”.
Does neb wedi ei gweld hi ers dydd Llun diwetha’ (Mawrth 4).
Roedd hi wedi bod yn teithio gyda ffrind ym Mecsico a’r Unol Daleithiau, ac mae lle i gredu ei bod hi wedi gadael ei heiddo cyn mynd ar goll.
“Mae hi bob amser wedi bod yn un dda am gadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i ni ble mae hi a beth mae hi’n ei wneud,” meddai ei rhieni mewn datganiad.
Mae’r Swyddfa Dramor yn cynorthwyo’r teulu.