Mae’r canwr R Kelly yn rhydd o’r carchar unwaith eto ar ôl i unigolyn anhysbys dalu ei ddirwy o 161,000 o ddoleri (£124,000).
Cafodd ei garcharu ganol yr wythnos ddiwethaf am fethu â thalu cymhorthdal plant.
Doedd y person a dalodd ei fechnïaeth ddim am gael ei enwi, yn ôl yr heddlu.
Mae’r canwr yn wynebu nifer o gyhuddiadau o gamdrin nifer o fenywod a merched yn rhywiol, ond mae e’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Fe dreuliodd e wythnos yn y carchar fis diwethaf ar ôl cael ei arestio.
Bryd hynny, talodd rywun arall ei fechnïaeth o 100,000 o ddoleri (£77,000) gan fod ganddo fe drafferthion ariannol, yn ôl adroddiadau.
Mae’n honni bod nifer o bobol wedi dwyn arian o’i gyfrifon banc.