Mae nifer o adeiladau wedi cael eu gwagio, wedi i sgaffaldiau ddymchwel i ganol stryd brysur yng ngogledd Llundain.
Y gred ydi mai gwyntoedd cryfion oedd yn gyfrifol am y ddamwain.
Mae Brigâd Dân Llundain yn cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i ddelio â’r digwyddiad, ac mai mater o ddiogelwch oedd gwagioadeiladau cyfagos yn ardal Hampstead Heath.
Does neb wedi’i anafu.