Mae bachgen yn ei arddegau wedi marw, ar ôl cael ei drywanu yn West Kensington, Llundain.

Daethpwyd o hyd i’r bachgen gydag anafiadau yn ei frest brynhawn heddiw (dydd Iau, Mawrth 7).

Roedd yr heddlu wedi’u galw i Lanfrey Place am 2.14yp, ac er i’r bachgen gael ei gludo i’r ysbyty am driniaeth, bu farw yno yn ddiweddarach.

Does neb eto wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.