Mae grŵp cynghorwyr Llafur, Cyngor Sir Gâr wedi cael ei “ddrysu” gan honiadau o fwlio, yn ôl ei arweinydd.

Ddoe (dydd Mercher, Mawrth 6) fe ddaeth i’r amlwg bod sawl un o fewn y grŵp wedi penderfynu troi’n annibynnol.

Ac yn ôl un o’r rheiny a adawodd, Jeff Edmunds, roedd arweinwyr y grŵp yn wedi defnyddio “tactegau bwlio” ac wedi’u trin mewn modd “hollol annerbyniol”.

Ond mae’r arweinydd, Rob James, yn dweud wrth golwg360 bod y sefyllfa yn “siom hollol” iddo, a bod y cynghorwyr ddim wedi lleisio eu pryderon cyn gadael.

“Mae’r honiad o fwlio yn un sy’n ein drysu,” meddai.

“Dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw beth. Mae gyda ni reolau llym yn y blaid.

“Mae’r Pwyllgor Gweithredol Cymreig yn gorff sydd yn cadw llygad ar Blaid Lafur Cymru gyfan. Dydyn nhw ddim wedi derbyn unrhyw gŵyn.

“Pe bai unrhyw honiad o’r natur yna wedi bod, mi fyddan nhw wedi derbyn hynna. Mae’r mater yn ofid i mi…

“A dydw i chwaith ddim wedi derbyn unrhyw honiadau gan yr aelodau,” meddai wedyn.

“Dw i ddim wedi medru gweithredu ar unrhyw beth oherwydd dydyn nhw ddim wedi dod ata’ i.”

Presenoldeb

Doedd y cynghorwyr ddim yn bresennol yn y rhan fwyaf o gyfarfodydd y grŵp, meddai Rob James, a doedden nhw ddim wedi manteisio ar “gyfleoedd i siarad” ag ef.  

Mae’n credu y dylai isetholiadau cael eu cynnal er mwyn iddyn nhw “ennill mandad newydd”, ac mae’n credu mai “personality politics” sydd ar waith â’r ymadawiad.

“[Cyn-arweinydd y grŵp] Jeff sydd wedi bod fwyaf llafar ei farn,” meddai.

“Fe oedd y lleiaf bodlon pan gollodd yr arweinyddiaeth ym mis Mai. Mae wedi bod yn ffigwr divisive yn y blaid [ers colli] yr arweinyddiaeth.”

Jeff Edmunds, Sharen Davies, Louvain Roberts, Eryl Morgan a Shahana Najmi yw’r cynghorwyr sir sydd wedi cefnu ar y blaid.