Mae cynghorydd o Sir Gâr wedi cefnu ar y Blaid Lafur gan ei bod eisiau “bod yn rhydd i ddweud beth [mae hi] eisiau ei ddweud”.

Daeth i’r amlwg ddoe (dydd Mercher, Mawrth 6) bod sawl un o fewn grŵp Llafur y Cyngor Sir wedi penderfynu troi yn annibynnol.

Yn ôl un o’r cynghorwyr a adawodd, Jeff Edmunds, roedd arweinwyr y grŵp yn wedi defnyddio “tactegau bwlio” ac wedi’u trin mewn modd “hollol annerbyniol”.

Un arall o’r rheiny sydd wedi gadael yw Shahana Najmi, ac mae’n adleisio’r sylwadau gan ddweud bod un o aelodau hŷn y blaid wedi dioddef “bwlio ac aflonyddwch”.

Rheswm arall am ei hymadawiad, meddai, yw bod “lot o bobol” yn poeni am eu hunain yn fwy nag am eu wardiau, ac mae hi eisiau adlewyrchu ei ward â mwy o ryddid.

“A bod yn onest, mi ymunais â’r Blaid Lafur gan fy mod yn credu yn eu hegwyddorion ac ati,” meddai wrth golwg360. “A dw i o hyd yn cydweld â’r blaid, i ryw raddau.

“Ond o fewn grŵp Llafur y Cyngor Sir doeddwn i ddim yn hapus gyda’r system fewnol. Roedd disgwyl i ni gytuno â rhai pethau, a chyd-fynd â’r grŵp.

“Ond roeddwn i eisiau gwneud pethau er lles fy ward.

“Os ydi cyfaddawdu yn amharu ar eich cymuned, dylai bod gennych y rhyddid i siarad am hynny. Doedd hynna ddim yn digwydd.

“Meddyliais i fy hun, ‘os af yn annibynnol, mi allaf leisio fy marn yn well’.”

Dychwelyd?

Mae’n dweud bod gadael wedi bod ar ei meddwl “ers sbel” ac yn mynnu nad oedd y cynghorwyr wedi “gynllunio a’i gilydd” i adael yr un pryd.

Mae’n ategu y byddan nhw yn awr yn cynrychioli ei wardiau yn gynghorwyr annibynnol, yn hytrach nag fel grŵp annibynnol.

Er yr ymadawiad, mae’n dweud bod yn dal ganddi “lawer o barch” at Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ac mae’n awgrymu y gallai ailymuno yn y dyfodol.

“Pe bai pethau yn gweithio yn well,” meddai, “a phe bai yna ddiwylliant o gydweithio, yn hytrach na diwylliant o fwlio a gweithio er lles eich hunain, fydden ni ddim yn diystyru ailymuno.

“Ond ar hyn o bryd, nid dyma’r peth iawn i mi”

Cyngor tref Llanelli

Mae Shahana Najmi hefyd yn Arweinydd ar Gyngor Tref Llanelli, ac yn un o’r cynghorwyr tref sydd wedi cefnu ar y Blaid Lafur yno.

Yn sgil hyn mae mwyafrif Llafur yno wedi’i ganslo allan, a bellach mae’r cyngor yn glymblaid o aelodau annibynnol.  

Mae’n dweud bod y cyngor wastad wedi bod yn “gadarnle Llafur”, a bod diwedd teyrnasiad y blaid yno yn beth “trist”.

Ymhlith y cynghorwyr tref a gefnodd ar y Blaid Lafur yn Llanelli mae: Jeff Edmunds, Levaine Roberts, Lauren Edmunds, Sara Griffiths, Chris Griffiths a Matthew Edmunds.