Byddai Theresa May “wrth gwrs” yn gwrthod caniatáu Llywodraeth yr Alban ail refferendwm ar annibyniaeth.

Dyma mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi ei gadarnhau heddiw (dydd Iau, Mawrth 7) yng Nglasgow – gan wneud yn glir i Brif Weinidog Yr Alban na fyddai Theresa May yn caniatau pleidlais arall.

Ond yn ôl dirprwy arweinydd yr SNP, Keith Brown, ni ddylai safiad y prif weinidog atal Llywodraeth yr Alban rhag ceisio cynnal un.

Wrth ateb cwestiwn ynglŷn â beth fyddai ymateb Theresa May os fyddai Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn gofyn am orchymyn Adran 30 i gael caniatâd, “na fyddai’r ateb,” meddai Jeremy Hunt.

Yn ôl Keith Brown, mae safiad y Torïaid yn “hynod annemocrataidd,” wrth grybwyll fod Llywodraeth yr Alban eisoes wedi gofyn am ganiatâd.

Er byddai Llywodraeth yr Alban yn gallu cynnal pleidlais arall, byddai angen caniatâd Adran 30 gan San Steffan er mwyn iddo fod yn gyfreithiol.

Mae’r SNP yn dweud bod maniffesto 2016 Holyrood yn rhoi’r hawl iddynt gynnal pleidlais arall.