Mae heddwas yn nhalaith Florida yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei ganfod yn euog o ddynladdiad ar ôl saethu gyrrwr croenddu.

Nouman Raja yw’r swyddog cyntaf mewn 30 blynedd yn y dalaith i gael ei ganfod yn euog ar ôl saethu tra ar ddyletswydd.

Penderfynodd y rheithgor heddiw (dydd Iau, Mawrth 7) ei fod yn euog o ladd Corey Jones, 31, ym mis Hydref 2015.

Bydd Nouman Raja yn treulio gweddill ei oes yn y carchar pan gaiff ei ddedfrydu.