Mae tad Shamima Begum, y ferch a adawodd gwledydd Prydain i fynd i Syria, yn dweud na ddylid dilru ei dinasyddiaeth.

Fe adawodd Shamima Begum ei chartref yn Llundain yn 15 oed cyn teithio i Syria i briodi ymladdwr ISIS yn 2015.

Roedd hyn ar adeg pan oedd rhaglen recriwtio ar-lein ISIS yn ysgogi llawer o bobol ifanc i ymuno.

Mae Shamima Begum nawr yn 19 ac mewn gwersyll ffoaduriaid yn Syria.

Mae hi eisiau dod adref gyda’i babi newyddanedig.

Fe briododd Shamima Begum ddyn o’r Iseldiroedd sydd eisiau mynd â hi yn ôl yno.

Penderfynodd Ysgrifennydd Cartref gwledydd Prydain, Sajid Javid, gael gwared ar ei dinasyddiaeth – felly’r hawl i fyw yma.

Dywed ei thad, Ahmed Ali, y byddai’n parhau i alw ar wledydd Prydain i ganiatáu i’w ferch ddychwelyd.