Mae Llywodraeth gwledydd Prydain yn addo cyflwyno mesurau a fyddai’n amddiffyn hawliau gweithwyr ar ôl Brexit.

Yn ôl y Prif Weinidog, Theresa May, bydd San Steffan, undebau, a busnesau yn cael “gwaith newydd a gwell” wrth siapio awliau gweithwyr ar ôl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hi’n dweud mai’r Senedd yn Llundain ddylai benderfynu pa reolau sy’n addas ar ôl Brexit, yn hytrach na derbyn rheolau’r Undeb Ewropeaidd yn ddigwestiwn.

Daw hyn yn dilyn pryder gan undebau a’r Blaid Lafur am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar hawliau gweithwyr.

Safonau

Dywed y Llywodraeth ei bod yn ymrwymo i beidio gostwng hawliau gweithwyr sydd eisoes mewn grym ac sy’n rhan o gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw’n addo hefyd i sicrhau y bydd cyfraith newydd i newid y cyfreithiau hynny yn cael ei hystyried.

Bydd y Senedd yn cael yr hawl, trwy Fesur Cytundeb Brexit, i ystyried unrhyw newidiadau yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd,  ac yn pleidleisio ar  fabwysiadu’r rheiny yn rhan o gyfraith gwledydd Prydain.

“O ran hawliau gweithwyr, mae’r Senedd hon wedi gosod safonau mwyaf blaenllaw’r byd,” meddai Theresa May.

“Mi fydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol hefyd, gan gymryd ei phenderfyniadau ei hun a chan weithio’n agos gydag undebau llafur a busnesau.”