Mae naw o ddynion wedi cael eu dedfrydu i hyd at 20 mlynedd o garchar yr un, wedi i lys eu cael yn euog o gam-drin dwy ferch yn rhywiol ac yn emosiynol a’u hamddifadu o’u plentyndod.
Fe ddigwyddodd y cam-drin mewn cartref plant yn Bradford.
Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, fe ddechreuodd y cam-drin gyda Basharat Khaliq, 38, yn ecsploetio’r merched 14 oed yn 2008. Mae wedi’i garcharu am 20 mlynedd am gario ymlaen i ecsploetio’r merched am dair blynedd.
Mae’r CPS yn dweud i’r ferch arall gael ei pharatoi a’i hecsploetio gan nifer o ddynion, wrth iddyn nhw roi alcohol a chyffuriau iddi a’i phasio o un i’r llall.
Fe glywodd Llys y Goron Bradford fod y gamdriniaeth wedi parhau wedi i’r merched adael y cartref.
Fe ddaeth y gamdriniaeth i olau dydd pan gafodd un o’r dioddefwyr ei holi gan yr heddu mewn cysylltiad ag ymchwiliad arall i ecsploetio plant.