Mae un o uwch swyddogion y fyddin yn gwadu ei fod e wedi cyfiawnhau diwylliant o drais a bygythiadau yn Deepcut, y barics yn Surrey lle bu farw’r Gymraes, Cheryl James, yn 1995.

Mae Christopher Coles hefyd yn gwadu iddo wthio am reithfarn o hunanladdiad yn achos Geoffrey Gray, milwr 17 oed o Hackney a fu farw yno yn 2001.

Mae cyfreithwyr ar ran y teulu yn dweud y gallai fod rhywun arall wedi ei saethu tra ei fod e ar ddyletswydd, a bod Christopher Coles yn “ymddiheurwr” am yr hyn sydd yn digwydd yn Deepcut o ran trais a bygythiadau.

Mae’r cyfreithwyr yn dadlau yn y cwest i farwolaeth Geoffrey Gray fod Christopher Coles yn helpu’r Weinyddiaeth Amddiffyn i osgoi unrhyw gwestiynau am y fath ddiwylliant, a bod ei ddatganiad “wedi’i lunio er mwyn darlunio sefyllfa o hunanladdiad”.

Maen nhw’n dweud bod y diwylliant hwnnw yn ei gwneud hi’n bosib y gallai rhywun arall fod wedi ymosod ar Geoffrey Gray cyn ei farwolaeth.

Cafodd rheithfarn agored ei chofnodi yn y cwest cyntaf i’w farwolaeth yn 2002, ond fe ddaeth “tystiolaeth newydd” i law er mwyn sefydlu ail gwest.

Cefndir

Roedd Geoffrey Gray yn un o bedwar o filwyr fu farw yn Deepcut rhwng 1995 a 2002.

Fe fu cyhuddiadau o fygwth a thrais yn achosion Cheryl James, Sean Benton a James Collinson hefyd. Fe fu farw’r pedwar o ganlyniad i saethu.

Mae Heddlu Surrey wedi agor ymchwiliad newydd i’r honiadau o ymosod ac o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn y barics.

Mae disgwyl i gwest Geoffrey Gray glywed gan 91 o dystion, ac fe allai bara tan fis Mai.