Mae parc gwyliau pum seren yn Sir Fflint am dderbyn buddsoddiad o fwy na £1m er mwyn gwella’r cyfleusterau yno.

Mae Parc Gwyliau Traeth Talacre ger Treffynnon yn cael ei redeg gan Darwin Escapes, ac yn ôl y cwmni gwyliau, fe ymwelodd dros 25,000 o bobol â’r lle y llynedd.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y parc yn cynnwys cyflwyno rhagor o garafanau modern, datblygu ardal chwarae newydd ar gyfer plant, yn ogystal ag adeiladu estyniad i’r prif adeilad.

Mae disgwyl i’r gwaith ddod i ben fis nesaf, a hynny ar drothwy tymor y gwyliau.

Buddsoddiad

Mae Darwin Escapes yn gyfrifol am 22 o barciau golff a gwyliau ledled gwledydd Prydain, gan gynnwys yr un yn Sir y Fflint ac eraill yn Sir Ddinbych a Chonwy.

“Mae ein cynlluniau ar gyfer Parc Gwyliau Traeth Talacre yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnau ar draws y grŵp cyfan,” meddai llefarydd ar ran Darwin Escapes.

“Rydym yn chwilio yn barhaus am ffyrdd o ddarparu’r profiad gwyliau gorau posib i’n hymwelwyr, ac i sicrhau bod Darwin Escapes yn parhau i gael ei weld fe un o’r darparwyr gwyliau gorau yng ngwledydd Prydain.”