Mae Theresa May yn dweud na fydd pleidlais “ystyrlon” ar Brexit yr wythnos hon, ond mae’n mynnu y bydd yna bleidlais erbyn Mawrth 12.
Ac mae hi’n dweud nad yw’r Cabinet wedi rhwygo ar fater Brexit, er bod awgrym y gallai nifer o’r aelodau gefnogi’r ymgais i geisio gohirio’r broses ymadael er mwyn osgoi ymadawiad heb gytundeb.
Mae trafodaethau “positif” gyda’r Undeb Ewropeaidd yn parhau, meddai, wrth iddi deithio i’r Aifft ar gyfer uwchgynhadledd.
“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb ar Fawrth 29 o fewn ein gafael,” meddai.
Gwelliannau
“Dydyn ni ddim yn gwybod pa welliannau fydd yn cael eu cyflwyno,” meddai wedyn am y posibilrwydd o gael ei herio ar ei chytundeb.
“Dydyn ni ddim yn gwybod pa welliannau fydd yn cael eu dewis.
“Dydych chi ddim hyd yn oed wedi gweld y gwelliant y bydd y Llywodraeth yn ei gyflwyno – fel rwy’n dweud, bydd hi ddim yn bleidlais ystyrlon.”
Bydd hi’n rhoi datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, a bydd dadl yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol, gyda’r drafodaeth am ffiniau Iwerddon yn parhau.