Mae cyn-brif weinidog Prydain, John Major, yn bwriadu rhybuddio fod y ddwy brif blaid wleidyddol yn San Steffan yn cael eu manipiwleiddio gan gefnogwyr Brexit caled.
Ac mae o’r farn nad yw’r gwleidyddion hynny yn cynrychioli barn y rhan fwya’ o bobol gwledydd Prydain.
Mae disgwyl iddo ymosod yn benodol ar yr ‘European Research Group’ (ERG) dan arweinyddiaeth Jacob Rees-Mogg a’u galw’n “selotiaid” sy’n benderfynol o danseilio gwleidyddiaeth.
Fe fydd yn siarad yng Nghanolfan John Smith, Prifysgol Glasgow heddie (dydd Mercher, Chwefror 20).
“Ar hyn o bryd, mae yna bobol sydd – am nawr – â’u traed yn y blaid Geidwadol a’r blaid Lafur, ond nid eu meddyliau, na’u calonnau,” yn ôl John Major.
“Mae aelodaeth y blaid Geidwadol i weld yn gwanhau ac yn dieithrio Torïaid traddodiadol, tra bod cyn-aelodau UKIP yn dod i atgyfnerthu asgell dde, wrth-Ewropeaidd, y blaid.”
Mae disgwyl i John Major ymosod hefyd ar “eithafwyr” yr ERG am nad oes i’w ceidwadaeth ddim goddefgarwch.
“Dydi’r ERG ddim yn cynrychioli barn y mwyafrif… ac mae’r selotiaid i weld yn amharod ac yn analluog o weld y tu draw i fater Ewrop, a dim ond un pwnc ydi hwnnw.”