Mae tlodi plant mewn peryg o gyrraedd ei lefel uchaf erioed yng ngwledydd Prydain yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn ôl canlyniadau ymchwil.

Dywed y Resolution Foundation nad yw cyflogau pobol o oed gweithio yn debygol o godi dros y ddwy flynedd nesaf.

At hynny, mae toriadau cyson yn y wladwriaeth les yn debygol o achosi “cynydd sydyn” mewn tlodi plant ac ar y ffordd i gyrraedd 37% erbyn diwedd cyfnod y Senedd gyfredol.

Fe allai’r mwyafrif o blant sydd ag un rhiant, neu’r rheiny â mwy na dau frawd neu chwaer, fyw mewn tlodi erbyn diwedd y cyfnod, yn ôl y rhagolygon.

Yn ôl y Resolution Foundation, mae cartrefi gwledydd Prydain eisoes wedi profi ergyd o £1,500 y flwyddyn i’w hincwm.