Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi eu pryder ynglyn â chynlluniau Prifysgol Caerdydd i uno Ysgol y Gymraeg gydag adrannau ieithoedd eraill.
Yn ôl papur at staff, mae gan y brifysgol gynlluniau hefyd i dorri 380 o swyddi.
Ond y syniad o gael gwared â statws ‘Ysgol’ ar yr adran fwyaf o blith holl adrannau Cymraeg prifysgolion Cymru, sydd wedi codi gwrychyn.
Mae’r papur yn datgan bod Prifysgol Caerdydd yn “edrych ar gyfuno’r Ysgolion Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Ieithoedd Modern a’r Gymraeg yn Ysgol Llenyddiaeth, Ieithoedd ac Ymarfer Creadigol newydd”.
Y bwriad yw “galluogi arbedion effeithlonrwydd o ran addysgu a’u cyflwyno”.
Ac mae’n ymddangos y gallai pwnc ‘Cymraeg i Oedolion’ gael ei ddileu yn llwyr fel rhan o’r newidiadau.
“Byddwn yn ystyried ai ni yw’r sefydliad priodol i ddarparu Cymraeg i Oedolion, ac yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod cyrsiau yn parhau,” meddai’r papur.
“Byddwn yn gweithio gyda’r disgyblaethau er mwyn llunio maint yr Ysgol newydd o ran nifer y staff academaidd, ac rydym yn rhagweld y bydd yr aildrefnu yn galluogi staff i addysgu ar draws ystod o feysydd.”
Ergyd i darged y miliwn
Byddai israddio Ysgol y Gymraeg yn ergyd enfawr i Ysgol y Gymraeg meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, “nid yn unig i’r Brifysgol fel sefydliad ond hefyd i ymdrech Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg”.
“Heb statws Ysgol annibynnol, mae’n anochel y bydd yr adnoddau ar gyfer y Gymraeg yn lleihau a bydd safonau i fyfyrwyr yn disgyn.
“Ychydig flynyddoedd wedi iddyn nhw ail-ennill cytundeb i gynnig y gwasanaeth Cymraeg i Oedolion, mae’n sioc eu bod nhw nawr yn sôn am ddiddymu’r gwasanaeth, un sydd mor bwysig i’r iaith.”
Ymateb Prifysgol Caerdydd
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, un syniad ymysg nifer yw cael gwared ag Ysgol y Gymraeg.
Os bydd y syniad yn cael ei fabwysiadu byddai’n galluogi Ysgol y Gymraeg “i elwa ar fod yn rhan o grŵp ehangach o ddisgyblaethau sy’n rhannu nifer sylweddol o fuddiannau” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd.
“Gobeithiwn wella ymchwil ac addysgu drwy gynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngddisgyblaethol.
“Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg ac i gyflawni targedau Y Ffordd Ymlaen 2018-2023, sy’n edrych i ddatblygu Cymraeg yn y Brifysgol.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y newidiadau.