Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod cyplau’n fwy amheus o’i gilydd yn yr oes dechnoleg fodern, wrth i 70% o bobol gyfaddef iddyn nhw ysbïo ar ffôn symudol partner.

Ac mae 60% o’r bobol a gafodd eu holi gan wefan BestVPN.com yn dweud eu bod yn amau bod eu partneriaid wedi ysbïo ar eu cyfrifon ar wefannau cymdeithasol.

Ac mae 25% o’r rhai wnaeth ateb yn dweud i’w gweithredoedd anffyddlon gael eu datgelu trwy dechnoleg.

Cafodd dros 1,000 o bobol o bob cwr o’r byd eu holi fel rhan o’r ymchwil i’r hyn sy’n effeithio ar faint o ffydd sydd gan bobol yn eu partneriaid.

Ystadegau

Dywedodd 49% o’r bobol wnaeth ateb eu bod nhw wedi ysbïo ar weithgarwch eu partneriaid ar wefan luniau Instagram er mwyn gweld pwy sy’n hoffi’r lluniau.

Ymhlith pobol nad oedden nhw’n credu bod partner wedi bod yn anffyddlon, roedd 82% yn dweud eu bod yn ymddiried yn llwyr ynddyn nhw.

Ond mae’r ffigwr yn gostwng i 68% lle bu achosion o fod yn anffyddlon, gan awgrymu y gall y weithred o fod yn anffyddlon gael effaith hirdymor sylweddol ar berthynas.

Ond nid pryder ymhlith y to iau yn unig mo hwn, wrth i 35% o bobol dros 55 oed ddweud eu bod nhw wedi cael cip ar yr hanes chwilota ar gyfrifiadur partner.

“Gwirio gwefannau cymdeithasol partner yn gyffredin”

“Mae technoleg yn rhan mor sylweddol o’n bywydau fel nad yw’n syndod cymaint mae wedi treiddio i’n perthnasau ni, o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Jo O’Reilly, diprwy olygydd BestVPN.com.

“Ond yn hollbwysig, yr hyn y mae’r holiadur hwn yn ei ddangos yw nad yw’r ymddygiad y gallwn fod yn ei ddangos yn gynnar mewn perthynas, megis checio proffil cyfryngau cymdeithasol rhywun, yn dod i ben pan fyddwn yn ymwybodol o ddod yn gwpl.

“Mewn gwirionedd, i nifer ohonom, mae’n parhau ymhell ar ôl i ni ddod yn swyddogol ar Facebook.

“Mae checio ffôn partner wrth iddo/i fynd allan o’r ystafell, er enghraifft, wedi dod mor gyffredin fel bod nifer ohonom yn cymryd fod ein partner yn gwneud yr un fath i ni.”