Mae Michael D Higgins, Arlywydd Iwerddon, wedi canmol Lerpwl fel “dinas Wyddelig” ar ddiwrnod olaf ei ymweliad â Lloegr.
Mae’n galw am gryfhau’r “cysylltiadau arbennig” rhwng Prydain ac Iwerddon ar y diwrnod pan fu’n ymweld ag Eglwys Gadeiriol Lerpwl gyda’i wraig Sabina.
Roedd mwy na 200 o bobol yno i’w gyfarch wrth iddo draddodi araith.
“Waeth bynnag beth sy’n digwydd mewn digwyddiadau gwleidyddol cyfagos, mae hi mor bwysig ein bod ni’n adeiladu ar y cysylltiadau pwysig hynny sydd gennym o ran rhyngweithio,” meddai.
Fe fu’n canmol gweithwyr cymunedol, cyfraniad y Gwyddelod i isadeiledd Glannau Mersi a chamlas Manceinion yn dilyn y mewnlifiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dywedodd fod Gwyddelod i’w cael ym mhob agwedd ar fywyd Lerpwl, gan gynnwys y Beatles.
“Dyma beth sy’n digwydd yn y bydoedd gorau pan fo pobol yn rhannu eu bywydau,” meddai.
Perthynas Iwerddon a Lloegr
Ychwanegodd fod yna “aeddfedrwydd” bellach yn y berthynas rhwng Iwerddon a Lloegr.
“Rydym wedi symud i le newydd lle gallwn gerdded yn esgidiau ein gilydd, a lle gallwn ganolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol.
“Mae gan Lerpwl, y ddinas dra Wyddelig, gysylltiad eithriadol ag Iwerddon.”
Fe fu’n ymweld ag arddangosfeydd yn amgueddfa’r ddinas.