Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ag arf mewn ysgol ac mewn lleoedd cyhoeddus.

Mae’r cyhuddiadau’n dilyn achos o drywanu disgybl yn Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn, fore Llun. Aed â’r disgybl i’r ysbyty am driniaeth, ond cafodd fynd adref yn ddiweddarach.

Ymddangosodd y bachgen, na ellir ei enwi, gerbron Llys Ieuenctid Llandudno y prynhawn yma, ar ôl bod yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau ers ddoe. Fe fydd yn cael ei gadw mewn canolfan i droseddwyr ifanc hyd 13 Mawrth, pryd y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug.