Mae cyn-blismon wedi bod yn ei ddagrau yn y llys wrth gyflwyno tystiolaeth am drychineb Hillsborough yn Sheffield yn 1989.

Mae David Duckenfield, oedd yn gyfrifol am weithrediadau’r heddlu ar ddiwrnod gêm gwpan rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989, wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 95 o gefnogwyr Lerpwl yn sgil ei esgeulustod.

Does dim modd ei erlyn am farwolaeth un cefnogwr arall, a fu farw yn yr ysbyty gryn amser wedyn.

Roedd Stephen Ellis ar ddyletswydd gyda Heddlu De Swydd Efrog ar ddiwrnod y gêm, wrth i’r cefnogwyr gael eu hanfon i mewn i eisteddle ar Leppings Lane, lle cawson nhw eu gwasgu ar y terasau.

Mae Llys y Goron wedi clywed fod cryn dorf y tu allan i’r stadiwm cyn y gêm, a chafodd gatiau eu hagor er mwyn lleihau’r pwysau ar swyddogion diogelwch.

Cyfrifoldeb David Duckenfield

Mae erlynwyr yn honni mai cyfrifoldeb David Duckenfield, fel prif swyddog heddlu’r gêm, oedd sicrhau diogelwch y cefnogwyr.

Ond maen nhw’n ei gyhuddo o “fethiannau eithriadol” wrth fethu â monitor llif cefnogwyr ar y terasau ac o fethu ag atal mynediad i’r twnnel tuag at y terasau a’u hanfon i rannau eraill o’r stadiwm.

Roedd Stephen Ellis yn gyfrifol am dywys cefnogwyr Lerpwl oddi ar y trenau ac i mewn i’r stadiwm.

Mae’r rheithgor eisoes wedi clywed fod “blydi anhrefn” y tu allan i’r stadiwm am 2.45yp, wrth i 24,000 o gefnogwyr Lerpwl gyrraedd, gyda chefnogwyr yn cael eu gwasgu ar eu ffordd i mewn hefyd.

“[Dywedais i wrthyn nhw] am stopio gwthio, symud yn ôl, dweud wrthyn nhw fod pobol yn cael eu gwasgu yn y blaen, plîs symudwch yn ôl, peidiwch â bod ofn, unrhyw beth allwn i feddwl amdano,” meddai Stephen Ellis wrth y rheithgor.

“Mae’n bosib fy mod i wedi dweud ein bod ni am ohirio’r gic gyntaf, ond ches i ddim cyfarwyddyd.

“Roedd pobol yn bloeddio, ‘Gohiriwch hi’, felly dywedais i wrthyn nhw’r hyn roedden nhw am ei glywed er mwyn tawelu’r sefyllfa.”

Am 2.52yp, cafodd Gât C ei hagor, funudau cyn i gefnogwyr ddechrau cael eu gwasgu i farwolaeth. Daeth y gêm i ben erbyn 3.06yp wrth i faint y trychineb ddod yn fwy amlwg.

‘Ypsetio’

Wrth barhau i roi tystiolaeth, dywedodd Stephen Ellis fod y darn nesaf “yn ei ypsetio”.

“Ro’n i’n poeni cymaint am ddiogelwch y bobol o flaen Leppings Lane ac ro’n i wedi bod yn bloeddio dros y system sain ers 20 munud, yn peswch bob 30 eiliad oherwydd ro’n i’n bloeddio cymaint.

“Ro’n i’n gweld pethau o’m blaen, ro’n i’n gofidio’n fawr ac o fewn yr hyn oedd yn teimlo’n eiliadau, ro’n i’n edrych eto ac yn gweld fod pum metr o gefnogwyr o flaen y tro-gatiau.

“Ces i deimlad mawr o ryddhad, ond lle’r oedden nhw? Roedden nhw i mewn mor gyflym…”

Mae David Duckenfield, 74, yn gwadu dynladdiad 95 o bobol drwy esgeulustod.

Mae cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, Graham Mackrell, 69, yn gwadu troseddau iechyd a diogelwch.

Mae’r achos yn Llys y Goron Preston yn parhau.