Mae’r Llywodraeth wedi cael ei gorfodi i wadu adroddiadau sy’n ymwneud â chytundebau masnach Prydain ar ôl Brexit.
Mae’n ymddangos mai dim ond gyda 6 gwlad allan o 40 y mae Prydain wedi arwyddo cytundeb masnach i barhau cytundebau sydd ganddi eisoes â nhw yn sgil aelodaeth or Undeb Ewropeaidd.
Cafodd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Penny Mordaunt, ei holi ar y mater yn y senedd heddiw gan ddirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swanson .
Fe alwodd Jo Swanson am sicrwydd ynghylch trefniadau masnach Brexit yn ystod sesiwn gwestiynau’r Adran Ddatblygu Ryngwladol.
“Fel rydym wedi dysgu heddiw dim ond chwech allan o’r 40 cytundeb masnach sydd wedi eu haddo fydd yn barod erbyn diwedd mis Mawrth…” dywedodd Jo Swanson.
Aeth ymlaen i ofyn, “pa sicrwydd gall yr ysgrifennydd Gwladol hwn ei roi i’r Tŷ bod effeithio asesiadau o hawliau cymdeithasol, amgylcheddol a dynol unrhyw gytundeb fasnach cyn iddynt ddod i rym?”
Ond “nid dyma yw’r achos” meddai Penny Mordaunt, cyn datgan nad yw’r ffigurau yn gywir.
“Ein blaenoriaeth gyntaf, yn amlwg, yw parhad y fasnach ac ar ôl hynny byddwn yn gallu cyflwyno cynllun dewis masnach i wledydd Prydain a fydd yn rhoi mynediad heb gwota i o leiaf 48 o’r gwledydd lleiaf datblygedig.”