Mae’r cwmni ceir Ford wedi rhybuddio byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd fis nesaf yn “drychinebus” i ddiwydiant ceir Gwledydd Prydain.
Er hyn, nid yw’r cwmni wedi cadarnhau adroddiad papur y Times ei fod yn gwthio am gynlluniau i symud ei ffatrïoedd i dir mawr Ewrop.
Yn ôl y papur, roedd Ford wedi dweud wrth y Prif Weinidog, Theresa May, eu bod yn gwneud y cynlluniau hyn.
Daw hyn yn dilyn rhybuddion parhaus gan Ford ynghylch yr effaith wael byddai Brexit heb gytundeb yn ei gael ar y cwmni.
Mae rhai o ffatrioedd ceir gwledydd Prydain yn eu tro wedi bod yn cyhoeddi cynlluniau i atal prosiectau a chael gwared ar swyddi yn ddiweddar, gan gynnwys un yng Nghymru.
Fis diwethaf daeth y newyddion y gall ffatri Ford Pen y Bont gael gwared ar tua 1,000 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae eraill yn cynnwys Nissan – a ddywedodd wythnos diwethaf nad yw cynlluniau i adeiladau eu car newydd X-Trail yn Sunderland yn mynd ymlaen.
Yn ogystal, cyhoeddodd Jaguar Land Rover hefyd ei gynlluniau i gael gwared ar 4,500 o swyddi yng ngwledydd Prydain.