Mae cyfres gomedi newydd BBC Cymru, ‘Pitching In’ wedi cael ei beirniadu unwaith eto, yn dilyn darlledu pennod gynta’r gyfres neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 12).
Cafodd y cysyniad ei feirniadu ddechrau’r mis, wrth i’r trêl ymddangos am y tro cyntaf.
Ymateb i’r trêl
Mae’r gyfres yn adrodd hanes y cymeriad Frank Hardcastle (Larry Lamb, un o actorion y gyfres Gavin and Stacey), perchennog maes carafannau ‘Daffodil Dunes’ sydd wedi symud o Loegr i’r Gogledd.
Mewn trêl ar gyfer y gyfres, mae cymeriad benywaidd (Hayley Mills) i’w chlywed yn dweud, “Mae’n hyfryd, galla i weld pam dy fod wedi cwympo mewn cariad â’r lle hwn”.
Mae’r trêl ar gyfer BBC Cymru yn hysbysebu “cyfres gomedi newydd sbon wedi’i gosod yng ngogledd Cymru” – ac mae nifer o bobol wedi dangos eu dicter ar waelod y neges ar y dudalen Twitter.
Ymhlith y cwynion mae portread y gyfres o’r gogledd a’r ffaith fod gan yr actorion acenion y de yn hytrach na’r gogledd, yn ogystal â’r ffordd y mae’n ymdrin â’r mewnlifiad o Saeson i Gymru.
Ymateb wedi’r bennod gyntaf
Yr un yw gwraidd y cwynion yn dilyn darlledu’r bennod gyntaf.
Mae’r bennod yn agor gyda dyn croenddu mewn gwisg derwydd yn gweiddi “Cenedl heb iaith, cenedl heb galon”.
Ar ddechrau’r bennod, acenion Seisnig yn unig sydd i’w clywed, gyda’r sgyrsiau cyntaf yn cylchdroi o amgylch cymeriadau Larry Lamb a Hayley Mills.
Yn ymuno wedyn mae Melanie Walters ac Ifan Huw Dafydd yn siarad ag acen y de, ac yna Ieuan Rhys o Gwm Cynon yn chwarae cymeriad ag acen y gogledd.
Everyone complaining about the lack of gogs in #PitchingIn. They’re all in @pobolycwm that’s why. 🏴😉
— Alun Griffiths (@Griff24786) February 13, 2019
Ma’n ffarsical, a mae ymgais Ieuan Rhys i wneud acen Bangor yn waeth na’r holl blydi Saeson a Hwntws. Pam na fedran nhw gastio actorion o Fon, fel Julian Lewis Jones, er enghraifft! Cofia, ma’r gyfres mor uffernol ma’n well peidio bod ynddi.
— Sian Jones (@Sianeleri1) February 12, 2019
Dreadful! Acen Ieuan Rhys 🤦🏽♀️
— Bethan Jenkins (@Bethan_Jenkins) February 12, 2019
tro cynta i fi gwyno bo *dim digon* o Gogs yn rhwbeth #PitchingIn
— Garmon Ceiro (@GarmonCeiro) February 12, 2019
Da iawn @BBCWales, casting gwych! #PitchingIn #bbccasting #anghofiwchpitchinin pic.twitter.com/HWLTYFkLQf
— YChwith (@gerddiaffrica) February 13, 2019
@sarahdeane72
Hello. Are you the writer responsible for #PitchingIn?
Some of us here in Cymru are finding having Daffodil Dunes and similar names culturally insensitive. Any thoughts?@BBCWales— Ruth Price (@ruthferrisprice) February 4, 2019
Everyone complaining about the lack of gogs in #PitchingIn. They’re all in @pobolycwm that’s why. 🏴😉
— Alun Griffiths (@Griff24786) February 13, 2019
Can you imagine setting a drama in Liverpool and having barely any scousers in it? Worst still casting Mancunians as Scousers as “they’re all from the north west of England nobody will notice”… That’s exactly what @BBCWales have allowed to happen with #PitchingIn
— Huw Marshall 🏴 (@Marshallmedia) February 12, 2019
Heard about some Welsh speakers in Anglesey who walked into a pub near Daffodil Dunes, where as soon as they walked in, the people in there suddenly switched to Manchester and Swansea accents. #PitchingIn
— Richard Jones (@richtygwyn) February 12, 2019
As pointed out by @Bailey83M, there was more Welsh in Star Trek, set in outer space, than there was in @BBCWales‘ #PitchingIn, set on Ynys Môn . . .
— Aled 🏴 (@AledGwynWiliams) February 13, 2019
Imagine how you’d imagine Wales if you were from Surrey, and just generally had little or no interest in the place whatsoever.
Congratulations! You’ve just imagined #PitchingIn https://t.co/7LcgXdsTaP
— Y Barry Horns (@thebarryhorns) February 12, 2019
I particularly like how the North Walean locals all have South Wales accents. #PitchingIn
— Dave Jones 🏴🏳️🌈 (@WelshGasDoc) February 12, 2019
Surely there’s a Welsh production company out there who can be commissioned by a Welsh TV station to make a Welsh based drama with actual Welsh people, accurate accents and better portray our modern, progressive thinking #PitchingIn
— 🏴Mike Spike Inker 🏴🇪🇺 (@MikeSpikeInker) February 12, 2019
The standard has been set with #PitchingIn . Can’t wait for #cocklebay filmed on Ynys Llanddwyn to hit the screen later this year @BBCWales
— Richard Evans (@ifasytryc) February 12, 2019